Cymdeithas gydweithredol amaethyddol a reolir gan ffermwyr yw Cynhyrchwyr Cig Oen ac Eidion Cyf (WLBP), a chanddi dros 7,000 o ffermwyr da byw Cymru yn aelodau. Cynhyrchu da byw yw asgwrn cefn y byd ffermio yng Nghymru ac mae hynny o gryn bwys masnachol i’r holl economi.
Mae diogelu’r fferm deuluol Gymreig, gyda’i ffocws traddodiadol ar fagu gwartheg a defaid, yn allweddol i gynnal economi wledig ffyniannus ac mae’n hanfodol i gynnal harddwch cefn gwlad a thirwedd Cymru. Mae cynaliadwyedd ffermio da byw yng Nghymru yn dibynnu ar farchnata cynnyrch y ffermwyr hynny’n effeithiol, ac amcanion WLBP yw datblygu a rheoli’r offer a fydd yn helpu ein haelodau i gyrraedd y nod hwnnw.
Mae cyfleuster Cofnodion Fferm ac Iechyd Anifeiliaid ar gael i’r holl aelodau cynllun FAWL, cynllun gwarant ffermydd llaeth a chynllun Organig Cymru. Os ydych chi’n gynhyrchwr neu’n filfeddyg â diddordeb mewn defnyddio’r cyfleuster hwn, cliciwch isod i gofrestru.
Mae WLBP yn berchen ar nifer o gynlluniau yn y diwydiant, ac yn eu gweithredu. Nod WLBP yw cryfhau hyder defnyddwyr drwy sicrhau safonau fferm drwy Gynllun Cig Eidion a Chig Oen Gwarant Fferm Da Byw Cymru (FAWL). Mae QWFC Ltd yn ardystio aelodau o gynllun Gwarant Fferm Da Byw Cymru (FAWL), Cynllun Organig Cymru a Chynllun Gwarant Fferm Laeth y Tractor Coch. I gael gwybod rhagor, dilynwch y dolenni i wefannau’r gwahanol gynlluniau.
Yn yr adran hon, ceir adnoddau a dogfennau cysylltiedig â’r diwydiant amaethyddol gan gynnwys dogfennau WLBP, cyfrifianellau diwydiant a chanllawiau i ffermio da byw.
Ffôn: 01970 636 688
E-bost: info@wlbp.co.uk
Welsh Lamb & Beef Producers Ltd
Blwch Post 8, Gorseland
Ffordd y Gogledd, Aberystwyth
Ceredigion
SY23 2WB