14 MAI 2024

Mae aelodau o'r gymdeithas gydweithredol amaethyddol a reolir gan ffermwyr, Cynhyrchwyr Cig Oen ac Eidion Cyf (WLBP), ar flaen y gad o ran ymdrechion i fynd i'r afael â phroblem fyd-eang ymwrthedd i wrthfiotigau drwy arwain y ffordd wrth olrhain y defnydd o wrthfiotigau mewn da byw.

Mae aelodau WLBP wedi bod yn gweithio gyda'u milfeddygon i gyfrifo'r swm cyfartalog o wrthfiotigau sy’n cael eu defnyddio ar ffermydd cig eidion, defaid a llaeth yng Nghymru gan ddefnyddio Cyfrifiannell Defnydd Gwrthficrobaidd (AMU) y WLBP.

Mae mesur y defnydd o wrthfiotigau ar ffermydd yn rhan o Gynllun Gwarant Fferm Da Byw y WLBP (FAWL). Mae adroddiadau blynyddol ar Ddefnydd Gwrthficrobaidd (AMU) yn cael eu cynhyrchu gydag Adroddiad 2022 bellach ar gael ar wefan WLBP.

Dywedodd Rheolwr Cyffredinol WLBP, Iestyn Tudur-Jones, "Mae WLBP bob amser wedi gweithio'n agos gyda ffermwyr a'r gadwyn gyflenwi wrth ddatblygu safonau FAWL neu drwy ofyn i aelodau gymryd rhan mewn mentrau newydd. Mae'r dull hwn, o lawr gwlad i fyny, yn gweithio'n llawer gwell na gosod rheoleiddio ychwanegol heb ymgynghori. Cydweithiodd WLBP â milfeddygon, ffermwyr a datblygwyr meddalwedd i ddatblygu system o fesur y defnydd o wrthfiotigau sy'n cynhyrchu canlyniadau cywir a dilys er mwyn cadarnhau’r awgrym bod cynhyrchwyr da byw Cymru yn defnyddio gwrthfiotigau mewn modd cyfrifol."

Mae data ar werthiant gwrthfiotigau yn cael ei ddal a’i gywain trwy Gyfrifiannell AMU WLBP, sydd wedi’i dylunio’n arbennig i’r perwyl hwn. Mae'r offeryn adrodd newydd hwn yn cynhyrchu adroddiadau safonol ar y defnydd o wrthfiotigau (AMU) yn seiliedig ar fetrigau y mae’r diwydiant wedi cytuno arnynt. Mae’r canlyniadau’n cael eu mynegi fel miligramau o wrthfiotigau a ddefnyddir fesul cilogram o anifail, mesuriad sy’n cael ei dderbyn gan y llywodraeth a rhanddeiliaid y gadwyn gyflenwi.

Mae ffermwyr Cymru wedi croesawu'r dull gwirfoddol hwn, sydd wedi arwain at y set ddata annibynnol fwyaf o'i bath yn y DU, yn ein tyb ni.

Dywedodd y ffermwr o Sir Benfro, Eurig Jones, sy'n ffermio ym Mhantyderi, Boncath, "Mae Cyfrifiannell AMU y WLBP yn offeryn syml iawn, gyda dim ond ychydig iawn o fiwrocratiaeth. Serch hynny, mae’n cynhyrchu data gwerthfawr, cywir a fydd yn fy helpu i olrhain fy nefnydd o wrthfiotigau a meincnodi fy mherfformiad yn erbyn ffermwyr sydd mewn sefyllfa debyg.”

"Mae'n gam hanfodol wrth roi sicrwydd i ddefnyddwyr bod cynhyrchwyr da byw yn defnyddio gwrthfiotigau'n gyfrifol gan gynnal y safonau uchaf o ran iechyd anifeiliaid. Yn ogystal, mae'n enghraifft wych o sut y gall cynllun gwarant cig eidion a chig oen WLBP fod yn beth cadarnhaol, gan helpu cynhyrchwyr a defnyddwyr."

Dywedodd Liz Rees, Rheolwr Cadwyn Cyflenwi Cig Oen, Pilgrim’s Europe Lamb fod Cyfrifiannell AMU WLBP yn offeryn amhrisiadwy i'r diwydiant a'i gadwyn cyflenwi cig oen.

Dywedodd, "Fel cadwyn gyflenwi cig oen, rydym yn hyderus bod ein ffermwyr yn defnyddio gwrthfiotigau mewn modd cyfrifol.  Rydym wedi bod yn casglu data am ddefnyddio gwrthfiotigau ar gyfer ein grŵp cig oen er 2017. Mae Cyfrifiannell AMU y WLBP bellach yn symleiddio'r broses hon ar gyfer ein ffermwyr a Pilgrim’s. 

"Mae'r Gyfrifiannell yn caniatáu i fusnesau fferm gasglu data am wrthfiotigau yn rhwydd. Nid oes angen i’r ffermwr wneud unrhyw waith ychwanegol, gan fod y data yn cael ei gasglu gan eu milfeddyg wrth gwblhau'r adolygiad iechyd a lles blynyddol.

"Rydym yn ymdrechu i gefnogi ein ffermwyr i sicrhau’r lles a’r cynhyrchiant gorau posibl. Bydd y set ddata yn caniatáu i aelodau ein grŵp cynhyrchwyr feincnodi yn erbyn y diwydiant. Yn ogystal â'r defnydd o wrthfiotigau, mae’n bosibl canfod clefydau allweddol a pharhaus, eu targedu a'u trin."

Yn ystod y cyfnod a gafodd ei gwmpasu gan adroddiad y WLBP, fe wnaeth milfeddygon gwblhau cyfrifiadau AMU ar gyfer tua 5,428 o fentrau cig eidion, defaid a llaeth Cymru sydd o dan eu gofal. Mae'r wybodaeth yn parhau i ddod i mewn, ac ar hyn o bryd mae'r ffigwr bron wedi cyrraedd 11,000 o setiau data.

Dywedodd George Jones, Cyfarwyddwr Clinigol Milfeddygon y Priordy yn Aberteifi, "Rwy'n teimlo bod defnyddio Cyfrifiannell AMU y WLBP yn syml, gyda chamau hawdd i'w dilyn wrth gwblhau adolygiad FAWL i'n cleientiaid. Yna, mae adroddiad AMU yn gallu cael ei gynhyrchu’n hawdd, gan ganiatáu i'r ffermwr a'r milfeddyg ganolbwyntio eu hamser ar drafod iechyd anifeiliaid a chynhyrchiant ar y fferm.

"Mae’n bosibl cymharu’r defnydd o wrthfiotigau un flwyddyn yn erbyn y flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn creu’r cyfle i drafod gyda ffermwyr pa strategaethau amgen y gellid eu rhoi ar waith, gan arwain at leihau'r defnydd o wrthfiotigau heb gyfaddawdu lles anifeiliaid."

Mae WLBP yn gweithio gyda gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bryste i gynhyrchu a dadansoddi'r data AMU hanfodol hwn. Yn ogystal, mae'r gymdeithas gydweithredol yn rhan o raglen Arwain DGC  (Defnydd Gwrthficrobaidd Cyfrifol / Responsible Antimicrobial Use).

Dywedodd Kristen Reyher, Athro Epidemioleg Filfeddygol ac Iechyd y Boblogaeth ym Mhrifysgol Bryste, "Mae gwaith WLBP wedi bod yn wych wrth ddarparu data pwysig i Gymru er mwyn dangos ei rôl arweiniol mewn stiwardiaeth gwrthfiotigau ledled y DU ac yn fyd-eang. Mae'r data hwn yn caniatáu i ffermwyr a milfeddygon weithio gyda'i gilydd i leihau'r defnydd o wrthfiotigau i'r lefelau isaf posibl. Bydd hyn yn cael effaith ganlyniadol ar gadw ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) mor isel â phosibl a'n helpu i sicrhau bod gwrthfiotigau’n cael eu defnyddio 'cyn lleied â phosibl ond gymaint ag sydd eu hangen'.

Mae’r data sydd wedi’i gasglu gan y Gyfrifiannell AMU yn cael ei gyflwyno yn unol â dosbarthiad gwrthfiotigau’r Asiantaeth Feddyginiaeth Ewropeaidd (EMA). Mae pedwar dosbarthiad o wrthfiotigau wedi'u graddio yn ôl y risg y mae eu defnydd mewn anifeiliaid yn ei beri i iechyd y cyhoedd trwy ddatblygiad posibl ymwrthedd a'r angen i'w defnyddio mewn meddygaeth filfeddygol - Categori A (heb ei awdurdodi ar hyn o bryd mewn meddygaeth filfeddygol), Categori B (wedi’i gyfyngu), Categori C (defnyddio gyda gofal) a Chategori D (defnyddio gyda phwyll).

Mae WLBP yn cydweithio â chenhedloedd eraill y DU ar ddeall y defnydd o wrthfiotigau mewn cyd-destun ehangach hefyd. Mae’n cynnwys gweithio'n agos gyda'r Gynghrair Defnydd Cyfrifol o Feddyginiaethau mewn Amaethyddiaeth (RUMA) a'r Hwb Meddyginiaeth electronig, yn ogystal â rhannu profiadau WLBP wrth gipio data am wrthfiotigau gyda phrosiect peilot ar gyfer yr Alban. Mae'r gwaith arloesol gan ffermwyr yng Nghymru yn dwyn ffrwyth go iawn.

Gellir gweld copi llawn o Adroddiad AMU WLBP 2022 yn:   https://www.wlbp.co.uk/cy/wlbp-annual-amu-reports/2022

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:

01970636688   Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.